Eirlys MarionEVANSYn dawel ar ddydd Mercher 11eg o Awst 2021 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin bu farw Eirlys o Avelon, Mynydd y Garreg. Priod ffyddlon y diweddar Neville, mam gariadus Ian a Susanne, mam yng nghyfraith annwyl Maria a Will, mamgu anhygoel i Nia, Rhian, Ioan a Ffion a chwaer yng nghyfraith hoffus i Novella a Noel. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Horeb, Mynydd y Garreg dydd Gwener 27ain o Awst 2021 am 2.15 o'r gloch, gwasanaeth preifat i ddilyn yn Amlosgfa LLanelli. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion os dymunir tuag at Prostate Cancer UK drwy law O.G. Harries Cyf. Trefnwyr Angladdau, Heol yr Orsaf, Pontyberem, Llanelli, SA15 5LF. (01269) 870350
Keep me informed of updates